WNA Logo.jpg

 

Cofnodion cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol

Dydd Mawrth 16 Medi 2014

Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Yn bresennol:         Caerdydd

Mark Isherwood AC (Cadeirydd)

Keith Davies AC

David Rees AC

Joseph Carter, Cynghrair Niwrolegol Cymru (WNA) a’r Gymdeithas MS

Chris Dawson, Llywodraeth Cymru

Pip Ford, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Caroline Lewis, Llywodraeth Cymru

Barbara Locke, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Parkinson’s UK

Dave Maggs, Cynghrair Niwrolegol Cymru a Headway UK (Cymru)

John Meredith, y Gymdeithas Dystonia

Lesley Morris, Epilepsy Cymru

Robin Moulster, BASW Cymru

Helen Owen, Nyrs Arbenigol MS

Ana Palazon, Cynghrair Niwrolegol Cymru a’r  Gymdeithas Strôc

Cath Taffurfill, BASW Cymru

Alan Thomas, Cynghrair Niwrolegol Cymru ac Ataxia De Cymru

Steve Walford, Ataxia De Cymru

Margaret Ware, Grŵp Cymorth Myotonig Dystroffi

Rachel Williams, Parkinson’s UK

 

Cyswllt Wrecsam

Urtha Felda, Cynghrair Niwrolegol Cymru, Cymdeithas MS Cymru a 

chynrychiolydd Cynghrair Niwrolegol Cymru ar Rwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru

Annette Morris, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Kevin Thomas, Is-gadeirydd Cynghrair Niwrolegol Cymru a Chymdeithas y Clefyd Niwronau Motor.

Catriona Fearn, Arbenigwr Therapi Galwedigaethol MS, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Leigh Campbell, Ffisiotherapydd Arbenigol mewn Niwroleg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Karen Shepherd Cynrychiolydd Cleifion y Bwrdd Rhwydwaith Niwrowyddoniaeth.

Carol Davies, BASW.

 

 

Ymddiheuriadau      David Murray Ymddiriedolaeth Cure Parkinson’s, Carol Smith, Cymdeithas y Clefyd Niwronau Motor. Mohammed Asghar AC, Janet Finch-Saunders AC, Gayle Pearson NVP, Huw Dylan Owen Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, Clive Harffy CMTUK, Vincenzo Straccio CNS.

 

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi

Cywirdeb -      Dave Maggs i gael ei ychwanegu at y rhestr o’r rhai a oedd yn bresennol.

Nodwyd sillafiad cywir Shine Cymru.

 

Nodwyd fod y cofnodion yn gyfrif gwir a chywir o’r cyfarfod.

 

 

Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd

Ym mhob Cyfarfod Blynyddol caiff Cadeirydd ac Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol ei ethol.

 

Enwebwyd y Cadeirydd presennol, Mark Isherwood AC, gan Rachel Williams, Parkinson’s UK. Eiliwyd yr enwebiad gan Ann Sivapatham.

 

Enwebwyd yr Ysgrifennydd presennol, Urtha Feldman gan Mark Isherwood AC.

Eiliwyd yr enwebiad gan Alan Thomas.

 

Cadarnhaodd Ana Palazon ailetholiad Mark Isherwood AC yn Gadeirydd ac Urtha Feldman yn Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol.

 

 

Cyflwyno’r adroddiad blynyddol

Cyflwynodd Joseph Carter Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol. Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion am nodau ac aelodaeth y grŵp, crynodeb byr o’r cyfarfodydd / gweithgareddau a gynhaliwyd a datganiad o gyfrifon y grŵp ar gyfer 2013/14.

 

Gwnaeth Joseph Carter gynnig ar yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan Dave Maggs.

 

 

Gweithredu’r Cynllun Cyflawni

 

·          Llywodraeth Cymru:

Amlinellodd Caroline Lewis a Chris Dawson o Lywodraeth Cymru yn fras ddiben y cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol, a chynlluniau cyflawni yn gyffredinol, gan ddweud eu bod yn canolbwyntio mwy ar gamau gweithredu a chysoni cynlluniau â mesurau perfformiad.

 

Dywedodd Chris na allai’r grŵp danystyried yr effaith a gafodd wrth lunio’r cynllun. Bydd tryloywder o ran cyflawni yn erbyn y cynllun yn hollbwysig a chaiff adroddiadau blynyddol eu cyhoeddi ar lefel bwrdd iechyd lleol. Mae rôl i bawb yn y gwaith o graffu ar y cynllun hefyd.

 

Cafodd y sylwadau a dderbyniwyd drwy’r ymgynghoriad ar y cynllun drafft eu hystyried a gwnaed newidiadau lle’r oedd hynny’n briodol. Er enghraifft, mae pennod o’r cynllun sy’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc â chyflyrau niwrolegol bellach wedi ei chynnwys.

 

Yn dilyn adborth gan Gynghrair Niwrolegol Cymru, cafodd fersiwn cryno ‘hawdd ei darllen’ o’r cynllun ei dosbarthu ar gyfer adborth a bydd yn cael ei chyhoeddi maes o law.

 

Bydd ardal cyflyrau difrifol gwefan Llywodraeth Cymru yn cael ei datblygu i gynnwys y gyfres o gynlluniau cyflawni. Mae’n debygol mai’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol fydd y cyntaf i gael ei roi ar y wefan ac mae’n bosibl y bydd y safle’n cynnwys cyfuniad o fideos, dogfennau a deunydd sain. Gofynnwyd a ellid cael ‘cysylltiadau cyflym’ i bob un o’r cynlluniau Bwrdd Iechyd Lleol.

 

 Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynlluniau cyflawni Byrddau Iechyd Lleol drafft yw diwedd mis Hydref 2014. Yng nghyfarfod mis Tachwedd o Grŵp Gweithredu’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol cynhelir adolygiad gan gymheiriaid o’r cynlluniau. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynlluniau terfynol i Lywodraeth Cymru yw diwedd mis Ionawr 2015.

 

Mae’r Grŵp Gweithredu yn cael ei gadeirio gan yr Athro Matthew Makin Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Mae tri chynrychiolydd o Gynghrair Niwrolegol Cymru ar y Grŵp Gweithredu.

 

Yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Gweithredu cytunwyd ar bedwar maes blaenoriaeth i’w cynnwys yng nghynllun pob Bwrdd Iechyd Lleol fel a ganlyn:

-       Codi ymwybyddiaeth gyda’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol;

-       Asesu a rhagfynegi anghenion y boblogaeth;

-       Gwybodaeth glir i gleifion a theuluoedd;

-       Gwasanaethau niwroadsefydlu cyson.

 

Bydd y Grŵp Gweithredu yn cadw trosolwg o gynlluniau cyflawni Byrddau Iechyd Lleol a’r cynnydd yn erbyn y pedair blaenoriaeth. Bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu i edrych ar fesurau canlyniadau ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Disgwylir yr adroddiadau blynyddol cyntaf ar y cynlluniau cyflawni ym mis Mehefin 2015.

 

·         Cynghrair Niwrolegol Cymru

Barbara Locke yw un o’r tri chynrychiolydd o Gynghrair Niwrolegol Cymru ar y Grŵp Gweithredu. Rhoddodd amlinelliad o gyfarfod cyntaf y grŵp a gynhaliwyd ym mis Awst.

 

Dywedodd Barbara ei fod yn brofiad cadarnhaol gyda’r holl Fyrddau Iechyd Lleol, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o amgylch y bwrdd gyda ffocws cyffredin ar niwroleg. Disgrifiodd Barbara y cyfarfod cyntaf yn agored, gonest a beiddgar ac roedd yn falch o fod yn gallu cynrychioli’r trydydd sector gylch yr un bwrdd â Byrddau Iechyd Lleol gan ddod â dimensiwn ychwanegol i’r trafodaethau.

 

·         Annette Morris, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Rhoddodd Annette gyflwyniad i’r grŵp am Rwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru, gan gynnwys ei nodau a’i strwythur, yn ogystal â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r rhwydwaith.

 

Mae Bwrdd y Rhwydwaith yn cynnwys cyrff statudol ac anstatudol sydd, drwy weithio ar y cyd, yn gallu comisiynu gwasanaethau o ansawdd uchel, gan wneud y defnydd gorau o adnoddau yng Ngogledd Cymru. Annette yw Cyfarwyddwr y Rhwydwaith a’r Athro Makin yw Cadeirydd y Rhwydwaith.

 

Mae nifer o Grwpiau Ymgynghorol clinigol ac anghlinigol i Glefydau Penodol (DSAGs) sy’n gweithio i flaenoriaethu a chynllunio ar gyfer meysydd penodol ac i wella sgiliau a gwybodaeth. Mae cylch gorchwyl y grwpiau hyn yn adlewyrchu rhai Bwrdd y Rhwydwaith Niwrowyddorau.

 

Mae’r Grŵp Academaidd / Gwybodaeth yn cysylltu ymarfer clinigol ag ymchwil i gyflyrau niwrolegol. Mae’n grŵp aml-randdeiliaid sy’n llywio meysydd allweddol o’r agenda iechyd, fel yr agenda ‘urddas a pharch’ a hunanreolaeth. Mae’r grŵp wedi cynnal diwrnodau astudio llwyddiannus yn ymwneud ag MS a’r Clefyd Niwronau Motor.

 

 Mae fforwm defnyddwyr gwasanaeth y rhwydwaith yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd ac mae’n gysylltiedig â chynghreiriau lleol. Mae bwrdd adsefydlu i edrych yn benodol ar wasanaethau niwro adsefydlu hefyd wedi cael ei sefydlu.

 

Dywedodd Annette bod y rhwydwaith wedi’i integreiddio ar draws ffiniau, sefydliadau, awdurdodau lleol a’i fod yn torri ar draws holl strwythur rhaglen glinigol y Bwrdd Iechyd. Mae llwyddiant y rhwydwaith i’w briodoli i’r ffaith ei fod yn cael ei arwain yn glinigol.

 

Dywedodd Annette na ddylid tanystyried yr heriau o gyflawni yn erbyn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol. Er enghraifft, roedd y ffocws cychwynnol ar oedolion ond erbyn hyn mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gwasanaethau i blant a phobl ifanc lle bydd angen arweinydd clinigol pediatrig.

 

Disgrifiodd Annette hefyd yr her o ymgysylltu’n barhaus â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr drwy gydol oes y cynllun, yn enwedig gan fod y cynllun yn torri ar draws ystod mor eang o gyflyrau niwrolegol.

 

Mae deall llwybrau cleifion ar draws timau amlddisgyblaethol hefyd yn her, ond mae’n bwysig deall rôl a chyfraniad yr holl weithwyr proffesiynol a’r goblygiadau o ran adnoddau er gwaethaf y cymhlethdodau o wneud hynny.

 

·         Nid oedd Dr Jenny Thomas yn gallu bod yn bresennol fel y trefnwyd felly ni aeth y rhan hon o’r eitem yn ei blaen.

 

·         Trafodaeth a dadl:

Gofynnodd Ana Palazon a fyddai ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y mesurau canlyniadau ar gyfer y cynllun cyflawni?

 

Atebodd Caroline na fyddai ymgynghoriad ffurfiol, ond y byddai’r broses yn anffurfiol ac yn gynhwysol drwy’r  sefydliadau o amgylch y bwrdd.

 

Gofynnodd Ana am y berthynas rhwng y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol a chynlluniau eraill megis y Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Clefydau Prin.

 

Ymatebodd Chris gan ddweud bod y cyfrifoldeb am yr holl gynlluniau gan yr un ardal a bydd angen iddynt gysylltu ar ôl cyflwyno’r cynlluniau 3 blynedd o dan Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

 

Roedd yn cytuno bod elfennau cyffredin rhwng rhai cynlluniau a hefyd cysylltiadau â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), gan gynnwys cynllunio’r boblogaeth a chanlyniadau. Bydd angen i Fyrddau Gwasanaethau Lleol edrych ar draws y sbectrwm eang o gynllunio ar lefel leol a sicrhau cydgysylltu lle bo angen.

 

Tynnodd Keith Davies AC sylw at ad-drefnu cyfrifoldebau’r Cabinet a’r ffaith bod y Gweinidog Iechyd bellach yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fel ffactor yn integreiddio’r gwasanaethau.

 

Holodd Keith Davies AC am y sefyllfa bresennol gyda’r cynlluniau ariannol 3 blynedd gan nodi nad oedd cynllun Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda wedi cael ei dderbyn. Nododd Chris y byddai’n cael gwybod os oes angen.

 

Cytunwyd y byddai’r grŵp yn ysgrifennu at y Gweinidog  Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y sefyllfa gyda’r cynlluniau ariannol 3 blynedd.

 

Dywedodd Keith Davies AC fod rhai gwasanaethau, yn Hywel Dda, yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a bod angen cynllunio ar gyfer hyn.

 

Nododd Caroline ei fod wedi cael ei gydnabod bod angen cynllunio effeithiol ar draws ffiniau ar y lefel leol a dylai’r broses adolygu cymheiriaid ar gyfer y Cynlluniau Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol sicrhau bod hyn wedi’i gynnwys.

 

Holodd Alan Thomas a fyddai’n bosibl cynnal digwyddiad i olrhain cynnydd yn erbyn y cynllun cyflawni. Cytunodd John Meredith y byddai hyn yn syniad da er mwyn i bobl allu rhannu profiadau.

 

Nododd Caroline y gallai fod yn bosibl cynnal digwyddiad o’r fath er mwyn casglu profiadau pobl, yn enwedig yn absenoldeb gwybodaeth sylfaenol arall, ar gyfer y gwaith ar fesurau canlyniadau.

 

Nododd Chris nad dim ond cynhyrchu adroddiadau blynyddol sy’n dangos cynnydd yn erbyn y cynllun bob blwyddyn yw’r bwriad, ond i gael her barhaus o gynnydd ar bob cam.

 

Cododd Pip Ford y mater o beth yw’r ffordd orau i’r Grŵp Trawsbleidiol edrych ar gynlluniau cyflawni’r Byrddau Iechyd Lleol a chraffu arnynt. Awgrymodd efallai y byddai’n berthnasol i wahodd cynrychiolwyr y Byrddau Iechyd Lleol sy’n ymwneud â chyflawni’r cynlluniau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyfarfodydd yn y dyfodol fel rhan o broses graffu hon.

 

Awgrymodd Mark Isherwood AC y dylai Cynghrair Niwrolegol Cymru ystyried a oes angen rhagor o gyfarfodydd er mwyn i gleifion rannu eu profiadau a gofynnodd sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau mewnbwn gan ddefnyddwyr gwasanaethau.

 

Cytunodd Caroline fod dibyniaeth ar fewnbwn gan grwpiau unigol megis y rhai o amgylch y bwrdd ac mae cydnabyddiaeth o’r angen i edrych ar ddulliau eraill o ymgysylltu.

 

Holodd Mark Isherwood AC Annette am y cynnydd ar ymgysylltu â grwpiau yng Ngogledd Cymru y clywodd amdano yn y gorffennol.

 

Dywedodd Annette fod defnyddwyr gwasanaethau bellach yn rhan o’r rhwydwaith.

 

Gofynnodd Joseph a fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r prosesau ymgysylltu a gynhaliwyd wrth ddatblygu’r cynlluniau lleol fel rhan o’r adolygiad gan gymheiriaid.

 

Nododd Caroline y gallai hyn gael ei gynnwys o fewn yr adolygiad cymheiriaid a fydd yn cael ei wneud gan arweinydd pob Bwrdd Iechyd Lleol ar y cyd â nifer fach o bobl eraill e.e. o gynghreiriau / rhanddeiliaid lleol. Bydd y cynrychiolwyr o Gynghrair Niwrolegol Cymru hefyd yn cael mewnbwn i’r adolygiadau.

 

 

Sylwadau wrth gloi

Diolchodd Mark Isherwood AC i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniad a diolchodd hefyd i Kevin Thomas am ei enwebiad bwced ia er budd y Clefyd Niwronau Motor!

 

 

Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol

Dyddiad y cyfarfod nesaf yw dydd Gwener 14 Tachwedd am 2pm yn yr Oriel Hotel, Ffordd Uchaf Dinbych, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0LW am 2pm. Gweinir lluniaeth o 1.30pm ymlaen.

 

Bydd dyddiadau cyfarfodydd ar gyfer 2015 yn cael eu dosbarthu maes o law.